Eisteddfod Fawr Llandudno 1896

Mae dyddiad Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn agosau a’r gobaith yw y bydd popeth yn barod ar ol misoedd o baratoi gyda nifer o bwyllgorau yn prysur weithio ar y manylion sydd yn angenrheidiol er mwyn gwneud yn siwr fod Gŵyl o’r maint yma’n llwyddiannus. Disgwyliwn y bydd tyrfaoedd o bob rhan o Gymru a phob rhan o’r byd yn disgyn fel arfer ar Lanrwst a Dyffryn Conwy.
Er bod hanes a thraddodiad yr eisteddfod yn mynd yn ol yn bell yn hanes y Cymry, nid yw’r mudiad eisteddfodol presennol yn hen iawn ac wedi cychwyn o ddifrif yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda man eisteddfodau a’r unig eithriadau yn y gogledd oedd eisteddfodau Conwy a Llandudno. Yng Nghonwy y mabwysiadwyd mesurau barddonol Dafydd ap Edmwnd sy’n dal mewn bod yn eisteddfodau’r presennol. Hefyd mewn pwyllgor bach mewn ystafell yn Neuadd Tref Conwy y pasiwyd y syniad am Eisteddfod Genedlaethol a’r cynllun o gynnal yr Ŵyl yn y Gogledd a’r De bob yn ail. Rhaid cofio hefyd mai yng Nghonwy y dechreuodd y cweryl rhwng Gwilym Cowlyd a’r Eisteddfod Associato, sef corff oedd yn cynnwys llawer o ysgolheigion Cymraeg y cyfnod oedd yn defnyddio mwy o Saesneg na Cymraeg yn eu trafodion. Dyna un rheswm pam fod Gwilym Cowlyd wedi sefydlu ei Arwest Geirionnydd i gystadlu ag eisteddfod swyddogol yr Eisteddfod Associato. Yn awyrgylch y cweryl a’r anghydfod yma y cynhaliwyd Eisteddfod Fawr Llandudno yn y flwyddyn 1896.
Yr oedd Eisteddfod Llandudno yn debyg i eisteddfodau heddiw yn ei phatrwm o gyngherddau a chystadlaethau.
Ar y nos Fercher roedd cyngerdd mawreddog gyda Chantata a gyfansoddwyd ar gyfer y Ŵyl, sef ‘Cambria’ gan Dr Joseph Parry a’r libretto gan O M Edwards yn cael ei berfformio gyda cherddorfa Pier Llandudno, Cerddorfa Jules Riviere a chor yr Eisteddfod o 400 o leisiau o dan faton Dr Roland Rogers, arweinydd cerddorol yr eisteddfod.
Dywedwyd yn y rhaglen fod y ‘Royal National Eisteddfod of Wales’, o dan nawdd y frenhines Victoria yn digwydd o ddydd Mawrth, Mehefin 30ain am bum niwrnod tan ddydd Sadwrn, Gorffennaf y 4ydd. Ar y dydd Iau, cynhaliwyd seremoni’r cadeirio, gyda 16 wedi ymgeisio ar y testun ‘Tu hwnt i’r Llen’ gyda awdl neu bryddest. Yr enillydd oedd y Parch Ben Davies o Ystalafera. Ar ol hynny bu cystadleuaeth corau merched a enillwyd gan gor o Birkenhead.
Ar y dydd Gwener, yn y bore roedd seremoni’r Orsedd yn yr Happy Valley lle’r anrhydeddwyd rhai pobl leol – yn eu mysg yr Arglwyddes Augusta Mostyn a gymerodd y teitl ‘Rhian y Gloddaeth’. Anerchwyd yr Orsedd gan y Prifathro John Rhys, Athro Adran Geltaidd Prifysgol Rhydychen. Soniwyd am y ffaith fod tref Llandudno wedi ei henwi ar ol Sant Tudno o’r chweched ganrif. Aeth ymlaen i ddweud fod y seintiau’n dduwol iawn a’r brenhinoedd yn ddrwg iawn a chan fod y seintiau’n gallu ysgrifennu dibynnid arnynt hwy am wybodaeth gynnar am y Cymry. Yn y prynhawn roedd cystadleuaeth a seremoni’r coroni lle roedd 8 yn cystadlu ar y pwnc ‘Arwrgerdd i Lywelyn Fawr’. Y beirniad oedd yr athro John Morris Jones ac fe gafodd y gynulleidfa fawr ei siomi pan glywyd nad oedd neb yn deilwng gan fod y cyfansoddiadau’n brin o ran ysbryd a theimlad tuag at arwriaeth y cymeriad.
Daeth Eisteddfod Frenhinol Llandudno i ben ar y dydd Sadwrn gyda chystadleuaeth Bandiau Pres.

 

Originally printed in Y Pentan – Written by Stan Wicklen

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Get started
%d bloggers like this:
search previous next tag category expand menu location phone mail time cart zoom edit close